Cofio’n fawr amdanat Dad/Taid

Cofio/Remembering Dad/Grandad image
▶️ Cofio Dad/Taid

Mae’r dudalen hon wedi’i chysegru er cof am fy nhad Richard Lloyd Jones a oedd yn dad a thaid cariadus eithriadol, a fu farw ar 13 Mawrth 2025 o salwch byr.

Arwyddocâd y dudalen newydd hon a gyflwynwyd heddiw, 23 Ebrill, 2025 i’r wefan hon yw’r ffaith bod ymwneud fy Nhad â CRG163 dros y blynyddoedd wedi bod yn arwyddocaol.

Ers bod yn berchen ar CRG163 ers mis Mehefin 2002, bu fy nhad yn ymwneud yn sylweddol ag adfer a chadw’r cerbyd ymhellach dros y 23 mlynedd nesaf.

Dechreuodd ei ymwneud ag ailadeiladu loceri CRG163 rhwng 2002 a 2004 yn ogystal â gwaith mawr arall a oedd yn golygu bod y ddau ohonom yn sandio’r cerbyd yn gyfan gwbl i baratoi ar gyfer peintio a gwaith llenwi lle bo angen.

Dim ond rhai o’r pethau a gwblhawyd gennym gyda CRG163 yw’r rhain heb sôn am brofi’r cerbyd yn y maes ac yna mynychu llawer o sioeau gyda’n gilydd unwaith roedd CRG163 yn barod yn gynnar yn 2004.

Isod mae casgliad o rai o luniau sy’n ymestyn dros 23 mlynedd sydd yn dal cysylltiad fy nhad â CRG163.  Mae rhagor o fanylion a chapsiynau yn ymwneud â’r ffotograffau hyn ar gael o dudalen Ein Colled Fawr / Our Devastating Loss ar y wefan hon neu drwy glicio YMA.

~~~~~~~~~~


▶️ Remembering my Father/Grandfather

This page is dedicated in memory of my Dad Richard Lloyd Jones who was an outstanding loving father and grandfather, who passed away on 13 March 2025 from a short illness.

The significance of this new page introduced today, 23 April, 2025 to this website is the fact that my Dad’s involvement with CRG163 over the years was significant.

Since owning CRG163 since June 2002 my Dad was significantly involved with the further restoration and preservation of the vehicle over the following 23 years.

His involvement began with the rebuilding of CRG163’s lockers between 2002 and 2004 as well as other major work that entailed both of us sanding down the vehicle completely in preparation for painting and filler work where needed.

These are only some of the things we completed together with CRG163 not to mention field testing the vehicle and then attending many shows together once CRG163 was ready in early 2004.

Below are a collection of some of the images spanning 23 years capturing my Dad’s involvement with CRG163.  Further details and captions relating to these photographs are available from Ein Colled Fawr / Our Devastating Loss page on this website or by clicking HERE.


Casgliad o rai o luniau fy Nhad a’i gysylltiad sylweddol â CRG163 yn ymestyn dros dair blynedd ar hugain o 2002 i 2025. / A collection of some of the images of my Dad and his significant involvement with CRG163 spanning twenty three years from 2002 to 2025.
▶️ Llyf ‘Crosville in Liverpool’ book

Nid yn unig roedd fy nhad yn gefnogol gyda CRG163, ond hefyd gyda ni fel teulu ym mhopeth a wnaethom.  Roedd hyn yn cynnwys llwyddiannau ysgol, gwaith a’r diddordeb oedd ganddo yn ein côr, Côr Meibion Dwyfor.

Roedd hefyd yn gefnogol i lyfr rwyf wedi’i ysgrifennu dros nifer o flynyddoedd o ymchwil a fyddai’n cael ei argraffu eleni (2025).  Roedd fy nhad mor gefnogol i hyn gan fod y llyfr yn canolbwyntio ar bobl go iawn ac effeithiau newidiadau i fframwaith rheoleiddio’r diwydiant bysiau ar bresenoldeb y cwmni Crosville Motor Services yn Lerpwl yn ystod ganol yr 1980au.  Yn anffodus ni chafodd fy nhad weld y llyfr yn cael ei gyhoeddi ond gwelodd fersiwn drafft diolch byth.

Yn y tafluniadau olaf o brawf-ddarllen mae’r llyfr bellach wedi’i ddiwygio i adlewyrchu marwolaeth sydyn fy nhad gydag ymroddiad arbennig yn y llyfr, a ddangosir isod ac ychwanegu ffotograff sy’n cynnwys fy Nhad allan o barch.

~~~~~~~~~~

Not only was my Dad supportive with CRG163, but also with us as family in everything we did.  This included the successes of school, work and the interest he had in our choir, Côr Meibion Dwyfor.

He was also supportive of a book I had written over many years of research that would be printed this year (2025).  My Dad was so supportive of this as the book concentrates on real people and the impacts of changes to the regulatory framework of the bus industry had on the Crosville Motor Services’ presence in Liverpool during the mid 1980’s.  Sadly my Dad did not get to see the book published but did see a draft version thankfully.

In the final throws of proofing the book has now been amended to reflect my Dad’s sudden passing with a special dedication in the book, shown below and the addition of a photograph that includes my Dad out of respect.



Dyfyniad o’r llyfr / Quote from the book: A photograph taken on Tuesday 20 August 2024 at the former location of Crosville’s Edge Lane depot. Along with my youngest son and father, I had travelled to Liverpool to catch up with former Crosville staff, and their descendants, mentioned in the book and to have a group photograph taken. Some people hadn’t seen each other in nearly forty years. From left to right: Richard Lloyd Jones (author), Gethin Lloyd-Jones (author’s youngest son), Richard Lloyd Jones (author’s late father), Malcolm Davies, Robert J. Montgomery, Graham Warren, David Forrest, Geoff O’Brien, Raymond Patterson, Mike Lambden, Bill Barlow, Allan Bentley, Bob Hayden, John Embleton, Paul Rycroft and Melvin Robinson.

Mae rhagor o wybodaeth am y llyfr ar gael o’r ddolen ar y dde. / Further information about the book Crosville in Liverpool is available HERE.

Mae rhagor o wybodaeth am ein diwrnod arbennig yn Lerpwl ar gael drwy’r ddolen ar y dde. / Further information about our special day in Liverpool on 20 August 2024 is available HERE.


▶️ Angladd / Funeral - 22.04. 2025

Cynhaliwyd angladd fy Nhad ar 22 Ebrill 2025. Fel teulu hoffem ddiolch i bawb a fynychodd ac am eu cefnogaeth hanfodol yn y cyfnod cyn yr angladd, ar y diwrnod a thu hwnt.  Dymunwn ddiolch hefyd i swyddogion Capel Bowydd (capel); Dr Dyfed Wyn Roberts am arwain ar wasanaeth mor hyfryd ac i Roberts & Owen, trefnwyr angladdau am safon ragorol y gwasanaeth a gawsom fel teulu drwyddi draw.

Darllenwyd nifer o deyrngedau yn ystod yr angladd.  Isod mae’r rhai a ddarparwyd gennyf fi a'm mab hynaf, y cefais yr anrhydedd o ddarllen ar ei ran yn y gwasanaeth.

~~~~~~~~~~

My Dad’s funeral took place on 22 April 2025.  As a family we would like thank everyone that attended and for their vital support in the build up to the funeral, on the day and beyond.  We would also like to thank the officials at Capel Bowydd (chapel); Dr Dyfed Wyn Roberts for leading on such a lovely service and to Roberts & Owen, funeral directors for the exemplary standard of service we have received as a family throughout.

During the funeral a number of eulogies were read.  Below are the eulogies provided by myself and my eldest son, in which I had the honour to read on his behalf at the service.


▶️ Teyrnged i’m Tad / Taid (Eulogy)

“Dyn a ffrind arbennig; dyn arbennig iawn; pob amser yr un fath; boi iawn; ffrind da; dyn annwyl pob amser a gwên; ffrind da i mi; cymeriad heb ei ail; wedi cael llawer o hwyl hefo fo; dyn da, annwyl dros ben.”

Dyma ond ychydig o eiriau i ni dderbyn oddiwrth nifer fawr o fobl wrth iddynt ddisgrifio a chofio fy Nhad ers i ni ei golli.  Mae’r geiriau hyn yn ei ddisgrifio’n berffaith.
“His qualities were demonstrated through your approach and compassion for others; a great man; grateful we got to meet him.” I'll be there to pay my respects to an absolute gentleman, I was so glad I got to meet.

These are just some of the words people have used to describe and remember my Dad fondly.  These words describe him perfectly.

Fel i nifer wybod, nid oeddwn yn rhan o fywyd fy Nhad yn fy mhlentyndod, ond yn y blynyddoedd i ddilyn gwnaed i fyny a hyn a llawer iawn mwy.

Ganwyd fy Nhad ar 15 Ebrill 1946, yn fab i Richard a Lily Lloyd Jones a brawd i Glyn.  Wythnos diwethaf fasa fy Nhad wedi bod yn 79 oed.

Yn ôl yn y dydd roedd fy Nhad a’m Taid gyda busnes adlewyrchus adeiladu ac angladdwyr yma ym Mlaenau Ffestiniog o’r enw Richard Lloyd Jones & Son fel nifer i’w cofio.  Deallaf roedd parch mawr iawn at y ddau yn y dref a drwy’r ardal gyfan yn y safon o’r gwaith pwyllog a thrylwyr iddynt gynhyrchu ac yn eu cymeriadau fel pobl.  Roedd bod yn grefftwyr o’r safon uchaf bosib pob tro yn bwysig iddynt o’u dau.

My Father and Grandfather had a successful building business here in Blaenau Ffestiniog and were also highly respected undertakers.  My Dad often mentioned to me how they both had utmost pride in the quality and standard of their workmanship.  My Dad constantly commented how much of a privilege it was to be an undertaker, providing utmost respect and care on the last and final journey.  We now have the opportunity today to return that very compliment.

Yn anffodus aeth fy Nhaid yn sâl gydag Alzheimer’s, a dyma pam i ni ddewis hyn fel elusen heddiw.  Roedd hyn yn agos iawn i galon fy Nhad wedi iddo edrych ar ôl ei Dad pryd hynny.
Unfortunately my Grandfather was taken ill with Alzhimers.  This is why we have chosen this charity today.  This was close to my Dad’s heart having cared for his own Father at the time.

Yn fwy diweddar roedd fy nhad wedi penderfynu buddsoddi mewn technoleg, mynd ar-lein ac ymuno a Facebook.

Doedd fy Nhad ddim yn ddyn technoleg fel hyn, ac yn y dechrau roedd y peth i gyd yn ddiarth iawn iddo.  Ond dros lawer ymweliad a galwadau ffôn a fideo dros wythnosau lawer daeth fy Nhad/Taid yn rêl boi arni.  Roedd o’n benderfynol i ddysgu a hynny gyda chymorth gwerthfawr Ioan a Gethin yn bennaf, a llwyddo y gwnaeth.
More recently my Dad decided to invest in technology and go on-line.  At first it was all alien to him but was eager and determined to learn through the valuable support of Ioan and Gethin over many weeks, visits, phone and video calls, and he did succeed.

Ymhellach i hyn sefydlwyd grŵp rhwng Taid, yr hogiau a minnau ar app Signal (debyg i Whats App) a’i gelwir yn ‘Taid a Ni’.  Drwy hwn roeddem mewn cysylltiad cyson gydag ef, yn ddyddiol a mwy, ac yn aml am oriau hefo Taid gyda pob dim yn cael ei rannu arno, o sut oedd ysgol; datblygiadau’r hen fws; lluniau gwirion; a Taid pob amser yn chwerthin a chael hwyl.
Roeddem yn aml yn cael galwadau fideo gyda Taid drwy’r app signal rhwng mynd i’w weld ac yntau yn dod i weld ni drwy fynd i’w nol yn y car ac wedyn yn ei ddychwelyd adref yn saff yn yr un modd.

Pob amser cinio rhwng cyfarfodydd gwaith buaswn yn codi’r ffôn ar fy Nhad mond i weld sut oedd o, cael sgwrs a rhoi’r byd yn ei le.  Roedd hyn yn digwydd yn ddyddiol.  Mae’n rhyfedd iawn ddim yn cael gwneud hyn bellach.

Roedd pob sgwrs yn cychwyn gyda Taid yn gofyn….. sut mae’r hogiau; ydi nhw wedi mynd i’r ysgol yn iawn bore ma?  Ydi Nia (fy ngwraig) yn iawn?  Roeddwn yn ateb pob tro i ddweud fod pawb yn iawn diolch, a Taid pob tro yn dweud hogiau gorau’r byd.  Roedd y geirau hyn yn eiriau roedd Taid yn defnyddio’n gyson am yr hogiau.  Roedd gan Taid feddwl mawr iawn o Ioan a Gethin ac yn addoli’r ddau fach a nhw yn addoli eu Taid yn yr un ffordd.

Ar gyfnod y Nadolig roedd Taid yn dod atom pob tro, a phawb yn edrych ymlaen i’w weld.  Roedd hyn yn uchafbwynt yng nghalendar blynyddol ni fel teulu.  Roedd fy Nhad/Taid yn ran bwysig iawn ohonom.

Roedd fy Nhad/Taid yn dangos diddordeb mawr ym mhob dim i ni wneud ac yn ddyn galluog iawn.  Nid yn unig oedd o’n gwrando ar y pethau i ni son amdan yn ofalus ac amwyneddgar ond yn dangos diddordeb mawr a dealltwriaeth ohonynt.

Yn 2002 prynais hen goets Crosville fel prosiect i’w hadnewyddu.  O’r cychwyn roedd fy Nhad yn rhan allweddol yn hyn.  Mae’r cerbyd gennyf bellach ers 23 o flynyddoedd.  Mae fy mhlant hefyd yn rhan o’r prosiect a dros yr holl flynyddoedd mae fy Nhad wedi bod yn rhan mawr ohoni.

Yn 2022 roedd angen ‘checio’ alternator yr hen goets drwy fynd a fo i arbenigwyr yng Nghaer am bod y batri ddim yn ‘chargio’.  Yn 2023 roedd yn rhaid i ni ail adeiladu ‘radiator’ yr hen goets drwy fynd a fo i gwmni arbennig yn Ellesmere Port.  Pob tro ac ar pob taith roedd fy Nhad hefo fi.  Dwi’n cofio mynd i nol y radiator fis wedyn ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau.  Dwi’n cofio stopio am baned o goffi ar yr A55 ar y ffordd yno ac wedyn yn Morrisons Ellesmere Port ar y ffordd nol i gael cinio.  ‘Fry’ y cawsom o’n dau.  Roedd fy Nhad yn awyddus iawn i dalu, ond na fy lle i fel mab oedd gwneud a dyna be fu.  Anrhydedd mawr oedd cael gwario’r diwrnod hefo fo.

In 2002 I purchased and restored an old Crosville coach.  From the beginning my Dad was instrumental in the project and continued to be so until now, spanning 23 years.  Only in 2022 the vehicle’s alternator had to be checked at a specialist in Chester as the battery wasn’t charging, and then in 2023 the vehicle’s radiator had to be to taken to a specialist company in Ellesmere Port to be rebuilt.  So off we both went as always, this time with the radiator in the boot of the car.  A coffee on the way on the A55 and then a cooked breakfast on the way back at Morrisons in Ellesmere Port.

Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn gwenud gwaith mawr adnewyddu ar gorff y cerbyd ond yn anffodus nid ydi fy Nhad bellach yn mynd i gael gweld y gwaith.

Pob tro fasa unrhyw waith oedd yn cael ei wneud ar y cerbyd yn fwy diweddar a’m Tad ddim hefo ni buaswn yn ei ffonio ar y ffordd adref ar ‘hands free’ i roi crynodeb o’r hyn i ni ei gyflawni ac wedyn anfon llwyth o luniau iddo, tua 50 deg fel arfer, drwy Signal ar ôl cyrraedd adref i mi dynnu drwy’r dydd i’w rhannu hefo fo y noson hwnw.  Roedd fy Nhad a diddordeb mawr yn y cerbyd ac yn dal Sion fy ffrind a chreftwr arall sydd hefo fi yn gwneud y gwaith yn uchel ei barch o’i arbenigedd yn ei grefft fel fy Nhad yn ôl yn y dydd.  Roedd fy Nhad yn dweud o hyd  faint mor dalentog oedd Sion yn ei grefft ac yn grefftwr arbennig iawn.

Y llynedd yn ystod mis Awst cawsom drip i Lerpwl sydd yn gysylltied a phrosiect arall i mi.  Fel arfer roedd fy Nhad hefo ni a phawb i’w gyfarfod yno ar ôl cyrraedd wrth eu bodd yn siarad hefo fo.

Last August we had a trip to Liverpool relating to another project of mine where we met up with friends and former staff at the old site of the Crosville depot in Edge Lane, Liverpool as a part of a new book.  My Dad was with us as always.  Whilst he never worked on the buses or Crosville, he got it completely and touched on many lives and was held in high esteem by so many within our Crosville family.  Some are here today, and especially Graham Warren, having travelled all the way from Liverpool, demonstrating clearly the respect he and many had for my Dad.  Graham’s late Father, the great George Warren, who sadly passed away in 2016 was one of ‘the legends of Edge Lane depot.  Back in the day he drove our old coach for Crosville in service.  The vehicle now connects us all in so many ways. Thank you very much Graham for coming today.  It means a lot to us.

Our grateful thanks also to Côr Meibion Dwyfor who are also represented here today.  A choir that is very close to my heart. Diolch yn fawr iawn i chi gyd am ddod.

Unfortunately my Dad will not get to see the book when it comes out later this year but did get to see a draft thankfully and was proud of what had been written about our Crosville families in Liverpool.  My Grandmother coincidentally was also born in Liverpool on the 7th of April 1919 with details to be included in the book.  My Dad was so proud of this.  A special dedication has now been arranged to be included in the book in memory of my dear Dad.  This will feature the group photo that we took from last August which includes my Dad as the final photograph in the book.

Rydym hefyd eisiau cael diolch yn fawr iawn i Iolo a’i dim heddiw, sef angladdwyr Roberts & Owen o Benygroes.  Fel fy’n Nhad a’m Taid yn y dyddiau a fu, dyma angladdwyr sydd yn rhoi pob ymdrech i’r siwrnai olaf, yn ofalgar a pharchus tu hwnt.  Roedd Iolo yn uchel ei barch gan fy Nhad ac fasa fo’n falch mai Iolo sydd yn arwain ar y trefniadau heddiw. Dyma grefftwr arbennig iawn yn ei waith fel fasa fy’n Nhad yn ei ddweud, ac yn ffrind tu hwnt hefyd.  Nid yw’r wythnosau diwethaf wedi bod yn hawdd, ond ti wedi bod yn gefn mawr i ni fel teulu.  Diolch i ti Iolo, Janice, Dewi, Mark a’r criw am pob dim.

Fel y gwelwch mae’r gair crefftwr a chrefftwyr yn cael ei gofnofi yn aml yn hyn heddiw gan ei fod yn hynod bwysig i’m Tad.

Fy niolch mawr hefyd i’m gwraig, a’m mechgyn arbennig iawn.  Tri craig gofalgar ac ardderchog i mi.  Rwyf mor ‘proud’ ohonynt yn y ffordd i ni gynnal ein gilydd drwy hyn, ac yn enwedig o Ioan a Gethin dros yr wythnosau diwethaf a heddiw.  Fasa Taid mor proud ohonoch o’ch dau.

Rydym wedi derbyn nifer fawr o alwadau a negeseuon dros yr wythnosau diwethaf ac rydym yn ddiolchgar iawn am pob un ohonynt ac i chi gyd am ddod yma heddiw.
Anrhydedd mawr iawn yw cael dweud fy mod yn fab i fy Nhad a gyda balchder mawr yn rhannu’r un enw.  Rydym fel teulu yn lwcus iawn o’r holl amser i ni wario gydag ef a’r holl atgofion melys sydd gennym ohono dros nifer fawr o flynyddoedd.  Byddem yn trysori hyn am byth wrth gofio amdano.

It is an honour to be my Father’s son and with pride sharing the same name too.  We are so lucky as a family to have such happy and cherished memories with my Dad/Grandad over many years.

Diolch i ti Dad am pob dim, am dy gariad; am wrando; am dy gyngor gwerthfawr pob tro; dy sylw a diddordeb; ac yn enwedig ar gyfer Ioan a Gethin - ac fel i ti ddweud o hyd, hogiau gorau’r byd.

(Richard Lloyd Jones)

~~~~~~~~~~


▶️ Teyrnged i’m Taid (Eulogy)

Oedd Taid, neu Taid Blaenau fel oeddwn ni yn ei alw yn berson caredig dros ben. Y tri gair rwyf yn cofio oedd Taid yn dweud y mwyaf yw “hogiau gorau’r byd”. Y tri gair yma oedd Taid o hyd yn dweud am fi ac fy mrawd bach, Gethin. Dyna pa mor agos oeddwn at Taid, ac dyna faint yr oedd yn ei olygu i ni.

Oeddwn ni fel teulu yn wastad o hyd yn cyfathrebu efo Taid, pob diwrnod, naill ai trwy godi'r ffôn neu anfon neges ar Signal. Rwyf yn cofio helpu dysgu Taid sut i ddefnyddio Signal, yn dangos sut i atodi lluniau ac anfon “voice messages”. Ar ôl dyfalbarhau am gyfnod byr, ac ychydig o negeseuon oedd wedi cael eu hanfon ar gamgymeriad, daeth yn rhugl iawn gyda'r ap. Oedd Taid o hyd yn gyrru negeseuon ac lluniau ar y grŵp oedd gennym o’r enw “Taid A Ni”, ac fe anfonon ni negeseuon ac lluniau i Taid yr un mor aml. Roedd Taid bob amser yn ymateb i'n negeseuon mewn ffordd hynod positif ac cadarnhaol, fel y negeseuon yma “mae hyn yn werthfawr go iawn iw gofio diolch yn fawr iawn Richard am feddwl am danaf” ac “argol fawr diolch yn fawr Ioan am gyru hyn imi”. Oeddwn o hyd yn neidio i anfon ateb i'w neges er mwyn diolch am ei sylwadau oedd wastad o hyd yn rhoi gwen ar ein gwynebau. Oeddwn yn falch iawn o Taid ac sut oedd o wedi addasu i’r technoleg mor gyflym.

Pob blwyddyn ar y diwrnod cyn Nadolig, oedd Taid yn dod lawr i’n tŷ er mwyn dathlu’r Nadolig. Oedd fy Mam yn paratoi bwyd blasus i pawb. Roedd Taid bob amser yn gwerthfawrogi popeth ac yn canmol Mam am y bwyd. Nid oedd y Nadolig byth yn gyflawn hebddo. Dwi’n cofio chwerthin am y jôcs y byddai’n dweud a mwynhau’r holl amser a gawsom gydag ef nes iddo fynd adref. Pan ofynnodd Gethin a minnau pan oeddwn ni’n iau am Siôn Corn, dywedodd mae Siôn Corn yn defnyddio “rocket boosters” i ddosbarthu anrhegion o gwmpas y byd. Rwyf dal yn meddwl am hynny pob Nadolig, er fy mod i wedi tyfu llawer ers hynny.

Pan oedd Mam a Dad yn mynd allan am fwyd, gofalodd Taid am Gethin a minnau. Rwyf yn cofio cael aros i fyny yn hwyr, yn gwylio ffilm ar y teledu efo Taid nes i Mam a Dad cyrraedd adref. Oherwydd oeddwn yn llawer iau ar y pryd, oedd cael aros i fyny yn hwyr yn peth mawr, ac oedd cael treulio’r amser hyn efo Taid yn ei gwneud yn llawer gwell.
Er bod Taid yn anffodus wedi ein gadael erbyn hyn, rwy'n falch iawn fy mod wedi gallu cyfarfod a threulio cymaint o amser gydag ef. Rwyf hefyd yn hynod falch ac hapus o'r holl atgofion a lluniau sydd gennym ohono a fydd gyda ni am byth.

Rwy'n gobeithio ei fod yn edrych i lawr arnom o'r nefoedd er mwyn clywed hyn; Diolch yn fawr iawn am pob dim yr wyt ti wedi ei wneud, ac diolch am yr holl atgofion ar amser rydym wedi cael treulio efo chdi.

(Ioan Lloyd Jones)


▶️ Cân arbennig sy'n golygu popeth - Anfonaf Angel

Wrth adael gwasanaeth angladd fy Nhad cafodd cân arbennig ei chwarae.  Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Robert Arwyn, cyfansoddwr uchel ei barch a dawnus yng Nghymru a geiriau gan Hywel Gwynfryn.  Canwyd y gân y tro hwn yn hyfryd gan Rhys Meirion, tenor byd eang o fri, yn wreiddiol o Dremadog, Gogledd Cymru.

Dyma ddolen i'r ganiad hyfryd yma trwy You Tube: https://youtu.be/TKRB7nFxzjc?si=4M5Ts4Tr9eJuTfAx 

Mae'r gân yn dweud yn syml y byddwn yn anfon angel gwarcheidwad i wylio drosoch.



▶️ A special song that means everything - Anfonaf Angel

On leaving my Father’s funeral service a special song was played.  The music has been composed by Robert Arwyn, a highly respected and accomplished composer in Wales and words by Hywel Gwynfryn.  The song on this occasion was sung beautifully by Rhys Meirion, a world wide renowned tenor, originally from Tremadog, North Wales.

Here is a link to this beautiful sing via You Tube: https://youtu.be/TKRB7nFxzjc?si=4M5Ts4Tr9eJuTfAx

The song simply states that we will send an guardian angel to watch over you.

Below is a  translation of the song’s words into English, provided by Sara Davies, available from the following web link: https://lyricstranslate.com/en/sara-davies-anfonaf-angel-english 



▶️ Angladdwyr Roberts & Owen Funeral Directors

Hoffem fel teulu ddiolch yn arbennig i Iolo a’r tim o drefnwyr angladdau Roberts & Owen Penygroes.  Mae eu gofal, cefnogaeth, sgil a gwasanaeth rhagorol a ddarparwyd i ni fel teulu ers marwolaeth fy Nhad, yn y cyfnod o flaen llaw; yn ystod yr angladd ac wedi hynny wedi bod yn gwbl ragorol.

Roedd eu gofal arbennig tuag atom ni fel teulu a’r gwasanaeth a ddarparwyd ganddynt i’m Tad ar ei daith olaf yn gwbl y tu hwnt i eiriau.  Yn ystod fy mywyd i gyd a’r llu o bobl yr wyf wedi cwrdd â nhw yn broffesiynol ac fel arall, dyma’r safon uchaf o wasanaeth o bell ffordd a welais erioed.  Mae angen iddynt i gyd fod yn hynod falch o'r ffordd y maent yn ymdrin â sefyllfaoedd sensitif o'r fath.  Cafodd Iolo a’i dîm eu hychwanegu yn y teyrnged i’m Tad yn yr angladd fel iddo ymddangos uchod.

Roedd y gofal a’r urddas a roddwyd i fy Nhad yn wirioneddol anhygoel, gyda Iolo yn cerdded o flaen hers fy nhad yn y ffordd draddodiadol ar nifer o achlysuron ac yn enwedig y pellter o gartref fy Nhad yr holl ffordd i weithdy fy Nhad.  Ar y pwynt hwnnw symudodd Iolo i ffwrdd o flaen yr hers i'r chwith; edrych i fyny ar yr arwydd Richard Lloyd Jones a'i Fab sef gweithdy fy Nhad a’i Dad (fy Nhaid), rhoi ei ben i lawr am eiliad wrth iddo ddarparu y barch olaf i’r ddau fel ymgymerwyr yn y dref ac yna yn ôl i i'r hers a pharhau â'r daith.  Roedd hyn yn gwbl anhygoel i'w wylio gan fod y daith trwy dref Blaenau Ffestiniog wedi ei chynllunio a'i gweithredu mor fanwl.  Yn sicr darparwyd angladd gwladweinydd.

Roedd pawb o fewn y tîm yn hollol wych.  Diolch i Iolo, Janice, Dewi, Mark, Meirion a phawb arall am bopeth.  Mae eich cefnogaeth a’ch gwasanaeth wedi golygu cyn gymaint i ni fel teulu ac mae’n bwysig bod hyn yn cael ei ddweud yn gyhoeddus heb amheuaeth.

~~~~~~~~~~

As a family we would particularly like to to thank Iolo Roberts and team from Roberts & Owen Funeral Directors of Penygroes.  Their utmost care, support, skill and exemplary service provided to us as a family since my Father’s passing, during the funeral and afterwards has been completely outstanding.

Their particular care for us as a family and the service they provided my Father on his final journey was completely beyond words.  In all my life and the many people I have met professionally and otherwise, this is by far the highest standard of service I have ever seen.  They are to be extremely proud of the way they approach such sensitive situations.  Iolo and team were mentioned in the eulogy shown above at the funeral.

The care and dignity that was provided to my Dad was truly incredible, with Iolo walking in front of my Dad’s hears in the traditional way on a number of occassions and especially the distance from my Dad’s home all the way to my Dad’s former workshop.  At that point Iolo moves away from the front of the hears to the left; looks up at the sign Richard Lloyd Jones & Son, puts his head down for a moment as he himself pays respect to my Dad, my Grandfather and their former work as undertakers in the town and then enters the hears again and continues the journey.  This was totally incredible to watch as the journey through the town of Blaenau Ffestiniog was so meticulously planned and executed.  A statesman's funeral was definitely provided.

Everyone within the team were totally outstanding.  Our grateful thanks to Iolo, Janice, Dewi, Mark, Meirion and everyone else for everything.  Your support and service has meant everything to us as a family and important that this is said publicly without doubt.




Dyma bennill i Iolo a’r tîm anfon ymlaen atom fel teulu yn dilyn yr angladd. / Below is the second verse of a poem that was sent to us as a family from Iolo and team following the funeral.

Cofier na roir y cyfan
Yn y blwch yn llwch y llan;
Bydd y cof yn boddi cur –
O hwn fe geisiwn gysur.
Try y llu adegau llon
Yn gyfoeth o atgofion.
Darn o hud o’r hyn a aeth
Ac sy’n aros yw’n hiraeth.


▶️ Ein helusen ddewisol yn angladd fy Nhad / Our chosen charity at my Father’s funeral

Mae croeso i chi gyfrannu at elusen ddewisiol, sef Cymdeithas Alzheimer. Cliciwch YMA am ragor o wybodaeth.

Please feel free to donate to our chosen charity which is the Alzhimer’s Society.  Click HERE for further information.


Ein helusen ddewisiol yn yr angladd / Our chosen charity at the funeral

▶️ Côr Meibion Dwyfor

Fel teulu, hoffem hefyd ddiolch yn fawr iawn i Gôr Meibion Dwyfor sydd yn agos iawn i’m calon.  Mae’r côr wedi bod yn gefnogaeth fawr tu hwnt i ni fel teulu drwy lu o gysylltiadau ac wedyn drwy gynrychiolaeth yn angladd fy Nhad ar y diwrnod.

Wrth i ni ddod i mewn i’r gwasanaeth yn y capel fel teulu ni welwyd pwy oedd yn y gynulleidfa o gwbl.  Ond pan gychwynnodd y canu yn yr emyn gyntaf, cawsom gysur mawr iawn fel teulu o glywed lleisiau adnabyddus y côr tu ôl i ni.  Diolch o galon i Buddug Roberts ein harweinyddes, Alison Edwards ein cyfeilyddes a’r côr am bob dim.  Cliciwch YMA am ragor o wybodaeth am y côr.

~~~~~~~~~~

As a family we would also like to thank Côr Meibion Dwyfor which is a choir that is close to my heart.  The choir has been a huge support to us as a family through many contacts and then through representation at my Father's funeral on the day.

As we entered the service in the chapel as a family we did not see who was in the congregation at all.  But when the singing started in the first hymn, we were very comforted as a family to hear the well-known voices of the choir behind us.  Thank you from the bottom of my heart to Buddug Roberts our Musical Director, Alison Edwards our accompanist and the choir for everything.  Click HERE for further information anout the choir.


▶️ Ymddangosiad y wefan

Ers marwolaeth fy Nhad mabwysiadodd y wefan hon ymddangosiad du a gwyn tywyll yn ymestyn dros chwe wythnos allan o barch at fy Nhad gyda choffadwriaeth arbennig ar ei dudalen flaen fel y dangosir isod.  Mae hwn bellach wedi'i ddiwygio a'i ddisodli ar 23.04.25 gyda thudalen barhaol newydd a fydd yn eistedd ar y wefan hon allan o barch at fy Nhad a Thaid.


▶️ Website appearance

Since my Father’s passing this website adopted a sombre black and white appearance spanning six weeks out of respect for my Father with a special remembrance on its front page as shown below.  This has now been amended and replaced on 23.04.25 with a new permanent page that will sit on this website out of respect for my Father and Grandfather.



Diolch yn fawr iawn i ti Dad am pob dim i ti wneud i ni fel teulu.  Fyddi di byth o’n meddyliau na’n calonau.

Thank you very much Dad for everything you have done for us as a family.  You will never be from our thoughts or hearts.